Mae mam o Donypandy wedi gwadu llofruddio ei merch bedair oed.

Fe fu Carly Ann Harris, 37, gerbron Llys y Goron Caerdydd heddiw ar gyhuddiad o ladd  Amelia Brooke Harris.

Cafwyd hyd i gorff y ferch fach mewn tŷ yn Nhrealaw ger Tonypandy ar 8 Mehefin eleni.

Mewn gwrandawiad gerbron y llys heddiw (dydd Llun, 20 Awst) fe wadodd Carly Ann Harris ei bod wedi llofruddio ei merch.

Mae hi hefyd yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad.

Mae disgwyl i Carly Ann Harris sefyll ei phrawf yn Llys y Goron Merthyr ar 10 Rhagfyr.

Cafodd Carly Ann Harris o Heol Brithweunydd, Tonypandy ei chadw yn y ddalfa.