Mae tua 30 o ddiffoddwyr tân yn brwydro tân mewn siop yng Nghaernarfon ar hyn o bryd.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân y Gogledd eu bod wedi cael eu galw am 8.49 y bore ma (dydd Llun, Awst 20) i’r siop, gyda fflat uwchben, yn Stryd Llyn y dref.

Mae chwe cherbyd o ddiffoddwyr yno yn defnyddio jetiau dwr i geisio diffodd y fflamau. Roedd rhaid iddyn nhw hefyd ddefnyddio camerâu thermal i weld os oedd yna unrhyw un yn yr adeilad.

Does dim gwybodaeth fod unrhyw un wedi cael eu hanafu ar hyn o bryd, na sut y cafodd y tân ei gynnau.

Maen nhw’n cynghori pobol i gadw draw o’r ardal ar hyn o bryd.