Mae ystadegau sydd heb gael eu cyhoeddi o’r blaen yn dangos bod 37% o garcharorion o Gymru yn cael eu cadw mewn carchardai yn Lloegr.

Yn ôl ymchwil gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, mae’r ystadegau hefyd yn dangos bod carcharorion o Gymru wedi’u gwasgaru ar draws 104 o garchardai yn Lloegr, a bod 91% o garchardai Lloegr yn cynnwys carcharorion o Gymru.

Ar hyn o bryd mae cyfanswm o 4,704 o garcharorion o Gymru, sydd wedi’u lledaenu ar draws 110 o wahanol garchardai yng Nghymru a Lloegr.

Daeth yr ystadegau i law Canolfan Llywodraethiant Cymru yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth. Mae’n dangos y carchardai lle mae’r holl garcharorion o Gymru yn cael eu dal, yn ogystal â pha un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru sy’n gartref iddyn nhw.

“Darparu gwell gwasanaethau”

Dywedodd Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru eu bod nhw’n gobeithio bod cyhoeddi’r  wybodaeth yn gyhoeddus am y tro cyntaf erioed “yn helpu’r rheiny sy’n gyfrifol am garcharorion a’r rhai sy’n gadael y carchar ledled Cymru i dargedu a darparu gwell gwasanaethau.”

Ychwanegodd: “Mae’n rhaid inni gydnabod bod lleoliad carcharorion yn fater cymhleth ond pwysig, nad yw wedi’i graffu arno na’i archwilio yn llawn. Fel y dadleuwyd yn ddiweddar gan Brif Arolygydd Carchardai ei Mawrhydi, mae gwasgariad a phellter o’r cartref yn faes sydd angen talu sylw pellach iddo os ydym ni am weld gwell canlyniadau.

“Rwy’n gobeithio bod yr wybodaeth hon yn cyfrannu at drafodaethau pellach am garcharu a’r system gyfiawnder yng Nghymru.”

Prif ganfyddiadau

Mae’r prif ganfyddiadau o’r data, a gafodd ei gofnodi ym mis Mehefin 2018, yn dangos bod:

  • 37% o’r holl garcharorion o Gymru (yn seiliedig ar gyfeiriad cartref cyn mynd i’r ddalfa) wedi’u gwasgaru ar draws 104 o garchardai yn Lloegr;
  • carcharorion o Gymru mewn 91% o garchardai yn Lloegr (104 o 116);
  • carcharorion o wahanol awdurdodau lleol yng Nghymru yn aml mewn carchardai yn Lloegr. Er enghraifft, roedd carcharorion gwrywaidd o Sir y Fflint mewn 44 o wahanol garchardai yn Lloegr. Mae carcharorion gwrywaidd o Sir Gaerfyrddin mewn 36 o wahanol garchardai yn Lloegr;
  • 261 o fenywod o Gymru mewn carchar ar ddiwedd Mehefin 2018. Roedd menywod o Gymru ym mhob un o’r 12 carchar i fenywod yn Lloegr;
  • Roedd gan 30% o’r holl garcharorion yng Nghymru ym mis Mehefin 2018 gyfeiriad yn Lloegr cyn mynd i’r ddalfa
  • Roedd carcharorion yn HMP Berwyn, yng ngogledd Cymru, o 125 o awdurdodau lleol yn Lloegr, sef 83% o’r holl ardaloedd awdurdod unedol a sirol yn Lloegr (125 o 151)
  • Roedd carcharorion o 74 awdurdod unedol a sirol yn Lloegr (49%) yng ngharchar HMP ac YOP yn ne Cymru.

Prosiect ymchwil

Mae’r adroddiad yn rhan o brosiect ymchwil dwy flynedd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru o’r enw Cyfiawnder ac Awdurdodaeth, sy’n edrych ar drefniadaeth a gweithrediad y system gyfiawnder yng Nghymru.

Mi fydd yr adroddiad diweddaraf yn cael ei rannu gydag awdurdodau lleol, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.