Mae teulu merch 15 oed o Rydyfelin, Pontypridd, sydd ar goll, wedi apelio arni i gysylltu gyda nhw.

Mae Heddlu De Cymru a’i theulu yn dweud eu bod yn gynyddol bryderus am Naomi Rees sydd heb gael ei gweld ers bore dydd Mercher, Awst 15.

Mae ei theulu wedi erfyn arni i adael iddyn nhw wybod lle mae hi ac os ydy hi’n ddiogel.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Meirion Collings eu bod nhw wedi gwneud “ymholiadau trylwyr i geisio darganfod lle mae Naomi Rees ac rydym ni a’i theulu yn gynyddol bryderus.

“Rydym yn poeni ei bod wedi gadael yr ardal leol a hoffwn wybod os yw hi’n ddiogel.”

Mae’r heddlu wedi apelio arni i gysylltu gyda’i theulu, ffrindiau, neu i fynd at yr orsaf heddlu agosaf.