Mae cerddwr wedi cael ei anafu’n ddifrifol ar ôl bod mewn gwrthdrawiad â char ger Bangor nos Sadwrn (Awst 18).

Cafodd Heddlu’r Gogledd eu galw toc cyn 11yh yn dilyn adroddiadau bod gwrthdrawiad rhwng cerddwr a char VW Golf du ar ffordd yr A4244 yn Efail Castell, Pentir.

Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor lle mae’n parhau i gael triniaeth.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio ar yr A4244 cyn y gwrthdrawiad a allai fod wedi gweld y dyn yn cerdded ar hyd y ffordd, i gysylltu â nhw.

Mae’r A4244 bellach wedi ail-agor.