Mae dynes wedi marw a dyn wedi cael anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ger Brynsiencyn yn Ynys Môn bnawn ddoe (dydd Sadwrn, Awst 18).

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad am 3.30yp yn dilyn adroddiadau bod dau gerbyd, Ford Fusion glas a Ford Focus gwyn, wedi mynd benben ar ffordd yr A4080.

Bu farw’r ddynes a oedd yn gyrru’r car Ford Fusion yn y fan a’r lle. Cafodd plentyn 11 oed, a oedd yn teithio yn y car gyda hi, ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gyda mân anafiadau.

Cafodd gyrrwr y Ford Focus ei gludo i Ysbyty Gwynedd gydag anafiadau difrifol ond nid rhai sy’n bygwth ei fywyd. Roedd dynes, a oedd yn teithio yn y car gydag o, wedi cael man anafiadau a chafodd hi ei chludo i’r ysbyty gan y Gwasanaeth Ambiwlans.