Mae gorsaf radio MônFM, wedi cael ei rhoi ar rhestr fer ar gyfer Gwobrau Radio Cymunedol 2018.

Mae’r orsaf wedi cael ei dewis i fod ar y rhestr fer allan o 360 o geisiadau gan 77 o orsafoedd gwahanol o phob congl o wledydd Prydain.

Mae’r orsaf wedi cael ei canmol am gategori ‘Ddigwyddiad Byw neu Ddarlledu Allanol y Flwyddyn’ am eu gwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2017 yn Bodedern, a hefyd ‘Celfyddydau a Radio Creadigol y Flwyddyn’ am rhaglenni arbennig o ‘Focus Wales’ yn Wrecsam.

“Rydan ni wrth ein bodd ein bod wedi derbyn cydnabyddiaeth ymhlith nifer fawr o orsafoedd eraill sy’n gwneud gwaith gwych yng Nghymru a thu hwnt,” meddai Tony Wyn Jones, cadeirydd dros-dro MônFM.

“Rydan ni wedi cyrraedd y rhestr fer o ganlyniad ein cefnogaeth hael i ddau o ddigwyddiadau mawreddog Cymru. Bob dydd, rydym yn hynod o falch i gael y pleser o weithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr sy’n ymroddedig o safbwynt rhoi eu hamser i helpu elusennau, achosion da a phrosiectau cymunedol a hefyd i wasanaethu ein cymunedau a’n gwrandawyr ffyddlon.

‘’Treuliodd yr orsaf dros fil o oriau yn gwirfoddoli yn y gymuned y llynedd, ac roedd un cyfnod prysur yn cynnwys 15 diwrnod gefn yn gefn dros dri ddigwyddiad enfawr a fynychwyd gan gannoedd o filoedd o bobol,” meddai wedyn.