Mae tri o bobol wedi cael eu harestio yn dilyn cyfres o gyrchoedd gan Heddlu De Cymru yn Merthyr Tudful a’r Rhondda.

Fe gafodd pum gwarant eu cyhoeddi fel rhan o’r ymgyrch ddydd Gwener, Awst 17, a esgorodd ar ganfod cyffuriau, arian ac arfau.

Mae dyn 25 oed wedi’i ddwyn i’r ddalfa ar amheuaeth o fod â chyffur dosbarth A yn ei feddiant gyda’r bwriad i’w werthu; mae dynes 48 oed wedi’i harestio hefyd ar fod â chyffur dosbarth B yn ei meddiant; ynghyd â gwraig 39 oed sydd wedi’i harestio ar warant.

Fe ddaethpwyd o hyd i werth £1,300 o arian parod; cyflenwad o’r cyffur crac cocên;  amffetaminau, offer cymryd cyffuriau, ac arf peryglus.