Fe fydd gorsaf drenau Euston yn Llundain at gau am dri phenwythnos yn olynol,.yn cynnwys penwythnos Gwyl Banc Awst.

Dyma’r orsaf sy’n derbyn y trenau o Gaergybi, Bangor a gogledd Cymtu

Fydd yna ddim trenau i mewn nac allan o Euston y penwythnos hwn (Awst 18-19), Awst 25-27 a Medi 1-2.

Mae cwmni Network Rail yn annog teithwyr o’r gorllewin i beidio â theithio i brifddinas Lloegr ar y dyddiadau dan sylw, oni bai fod hynny’n gwbwl angenrheidiol.

Fe fydd yr orsaf ar gau er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw.