Bydd gwasanaethau hunaniaeth rhywedd ar gael i oedolion yng Nghymru yn yr hydref, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd, mae’r holl gleifion sy’n arddangos dysfforia rhywedd yn gorfod cael eu cyfeirio at glinig arbenigol yn Llundain, lle maen nhw’n cael eu hasesu ac yn derbyn cynllun ar gyfer eu triniaeth.

Ond o ddiwedd mis Hydref ymlaen, bydd pobol drawsryweddol yn gallu cael gofal sy’n agosach at eu cartref, wrth i Dîm Rhywedd Cymru ddechrau gweld cleifion.

“Cam cadarnhaol”

“Mae cyhoeddiad heddiw yn gam cadarnhaol yn y cyfeiriad cywir tuag at y gwasanaeth cwbl integredig rwy’n disgwyl y bydd ar waith y flwyddyn nesaf,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

“Bydd cael tîm arbenigol yng Nghymru yn lleihau pellteroedd teithio a bydd hefyd, dros amser, yn lleihau’r amseroedd aros y mae pobol Cymru yn eu profi ar hyn o bryd.”

Presgripsiwn

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud y bydd cleifion yn ardal Caerdydd a’r Fro yn gallu cael eu presgripsiynau drwy feddyg teulu arbenigol o fis nesa’ ymlaen.

Yng Nghaerdydd mae’r nifer fwyaf o gleifion sy’n aros am therapi hormonau, medden nhw, a dyna’r rheswm pam mae’r ardal hon wedi’i thargedu.