Mae angen i Gymru ddatblygu technolegau newydd, yn hytrach na’u defnyddio yn unig, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Mae Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau yn dweud ei bod yn hanfodol bod Cymru’n barod i arwain yn y dyfodol wrth i heriau awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial ddod yn ffactor mawr yn y deugain mlynedd nesaf.

Yn ôl cadeirydd y pwyllgor, Russell George, bydd methiant i baratoi yn cyfateb i “fethu” yn y byd newydd.

Datblygu technoleg newydd

Ymhlith prif argymhellion y pwyllgor, mae angen i Lywodraeth Cymru nodi meysydd y mae gan Gymru fantais gystadleuol ynddyn nhw, gan fuddsoddi yn y rheiny.

Ymhlith y meysydd hynny mae lled-ddargludyddion cyfansawdd (compound semi-conductors) ac yswiriant a gofal iechyd.

Bu’r pwyllgor hefyd yn edrych yn ystod ei ymchwiliad ar amaethyddiaeth fanwl (precision agriculture), cerbydau awtonomaidd a’r sgiliau fydd eu hangen ar gyfer y dyfodol er mwyn bod yn gystadleuol.

Bydd hynny, meddai’r adroddiad, yn golygu bod yn rhaid newid cwricwlwm ysgolion er mwyn rhoi ystyriaeth i’r sgiliau newydd y bydd eu hangen.

Mae hyn oherwydd bod disgwyl i 65% o blant sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd gyflawni swyddi sydd ddim yn bodoli eto.

“Esgor ar drafodaeth”

“Mae’r corff cynyddol o astudiaethau ac adroddiadau ynghylch awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial yn rhoi ystod o ganlyniadau,” meddai Russell George.

“Maen amlwg y bydd methu â pharatoi yn cyfateb i baratoi i fethu yn y byd newydd hwn.

“Rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn esgor ar drafodaeth – nid ymhlith y sawl mewn pŵer yn unig, ond ymysg ystod eang o fusnesau, ar draws sectorau ac ar strydoedd Cymru.”