Mae’r RSPCA yn apelio ar bobol i beidio ag ymyrryd â dolffiniaid sydd wedi’u golchi i’r traeth yr haf hwn.

Yn ôl yr elusen, mae dolffiniaid yn dod i draeth am reswm, a hynny gan amlaf oherwydd eu bod yn teimlo’n anhwylus neu ar fin marw.

Yn ystod yr wythnos ddiwetha’, mae swyddogion y RSPCA wedi derbyn sawl adroddiad mewn ardaloedd arfordirol yng ngorllewin Cymru o bobol yn helpu dolffiniaid i ddychwelyd i’r môr.

Ond y cyngor i bobol yw i adael unrhyw ddolffin i fod, ac y dylen nhw gysylltu â’r RSPCA ar unwaith os ydyn nhw’n dod o hyd i un ar y tywod.

Achosi drwg

“Mewn nifer o ffyrdd, mae’n destun balchder bod pobol ledled gorllewin Cymru yn caru anifeiliaid gwyllt ac yn awyddus i’w helpu,” meddai Ellie West, swyddog gyda’r RSPCA.

“Ond mae dychwelyd dolffin sydd ar y traeth i’r môr yn gallu bod yn wrthgynhyrchiol.

“Mae pobol yn amlwg yn gwneud hyn gydag ewyllys da, ond gan amlaf dyma’r weithred anghywir ar gyfer yr anifeiliaid a’u lles.”