Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i honiad o ymosod yn Saundersfoot am 10.30yh nos Sadwrn (Awst 4).

Fe gafodd dau o bobol oedrannus eu targedu gan ddyn. Fe fu’n raid cludo un o’r henoed i’r ysbyty i gael triniaeth.

Fe gafodd dyn 20 oed ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad, ac mae wedi’i ryddhau tra bod yr ymchwiliad yn mynd rhagddo.

Mae’r heddlu yn pwysleisio mai achos unigol ydi hwn, a’u bod nhw’n chwilio am ferch a fu mewn cyswllt â’r dyn 20 oed yn syth cyn y digwyddiad. Mae hi yn ei 20au, o gorffolaeth fawr, gwallt melyn a dillad tywyll.