Mae’r tywydd sych dros gyfnod hir yn golygu bod mwy o beryg y bydd y system garthffosiaeth yn blocio – a gall cwsmeriaid helpu i atal hyn, yn ôl cwmni dŵr mwyaf Cymru.

Mae Dŵr Cymru, sy’n cyflenwi dŵr a gwasanaethau carthffosiaeth i fwy na thair miliwn o gwsmeriaid, i osgoi fflysio eitemau amhriodol i lawr y toiled a allai arwain at flocio ac achosi llygredd charthffosiaeth.

Mae’r cwmni sy’n gwasanaethu cwsmeriaid yn y rhan fwyaf o Gymru, Swydd Henffordd, a rhannau o Lannau Dyfrdwy a Swydd Gaer, yn gofyn i gwsmeriaid roi gwybod am unrhyw arwyddion o lygredd mewn afonydd neu nentydd er mwyn gallu trefnu unrhyw waith ymchwilio ac atgyweirio gofynnol yn gyflym a diogelu amgylchedd yr ardal.

Fe arall, fe fydd carthffosiaeth ladd pysgod a bywyd gwyllt arall yn y dŵr, effeithio ar fioamrywiaeth, a bod yn beryglus i iechyd pobol.

Mae’r cwmni yn ymdrin â rhyw 2,000 o adroddiadau bob mis o bibellau a draeniau carthffosiaeth wedi’u blocio, sy’n costio tua £7m y flwyddyn i’w cywiro.

“Mae’r tywydd sych yn ddiweddar yn golygu bod mwy o siawns y bydd ein systemau carthffosiaeth yn cael eu blocio,” meddai Steve Wilson, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru.

“A chan fod llai o ddŵr yn llifo drwy ein pibellau, nid yw’r eitemau sy’n eu blocio yn gallu llifo drwyddyn nhw mor hawdd, ac mae’r dŵr gwastraff yn llai gwan.

“Y prif reswm y bydd pibellau yn blocio yw pan gaiff y pethau anghywir eu fflysio i lawr y toiled a’u golchi i lawr y sinc – dyma sy’n achosi tua thri chwarter o’r achosion o flocio. A phan fydd rhywbeth yn mynd o’i le, gall achosi difrod ofnadwy i eiddo cwsmeriaid.”