Mae myfyrwraig yn un o ddinasoedd mwyaf Lloegr wedi lansio apêl am arian ar gyfer sefydlu Aelwyd yr Urdd newydd.

Daw Rhiannon Ashley o Landysul, ac mae ar hyn o bryd yn astudio Llais ac Opera yn y Coleg Cerdd yn Manceinion.

Yn ystod ei phedair blynedd yn fyfyrwraig, mae wedi cael syndod nad oes yr un Aelwyd yr Urdd yn y ddinas, o ystyried y nifer fawr o fyfyrwyr Cymraeg sydd yno.

“Mae cymaint o bobol Gymraeg i gael yn Manceinion, a doeddwn i ddim yn deall pam nad oedd un yn bodoli yn barod…” meddai wrth golwg360.

“Mae un i gael yn Llundain, felly pam na ddylen ni gael un?”

Y gwaith wedi dechrau

Er bod cymdeithas ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eisoes yn bodoli ym Mhrifysgol Manceinion, mae Rhiannon Ashley yn teimlo bod angen rhywbeth mwy sy’n dod â Chymry holl golegau’r ddinas at ei gilydd.

Mae’r gwaith o sefydlu’r Aelwyd wedi dechrau cyn yr haf, meddai wedyn, a’r gobaith yw cynnal nosweithiau cymdeithasol ac ymarferion cyn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Bae Caerdydd yn 2019.

Mae’n ychwanegu bod gan yr Aelwyd 25 aelod yn barod, a nod yr apêl am arian yw talu am logi lleoliadau, deunydd cerddorol a chostau teithio yn ystod y flwyddyn.

“Y côr SATB fydd y prif beth, ac fe fydda i’n arwain hwnna,” meddai.

“Ond os bydd digon o bobol, fe licen i wneud côr merched, côr bois, ac efallai grwpiau cerdd dant ac ensemble.

“Rydym ni hefyd yn gobeithio gwneud cyngerdd i godi arian ym mis Chwefror, er mwyn cael ymarfer cyn yr Eisteddfod.”