Mae Llywydd Llys yr Eisteddfod wedi “ymddiheuro’n llawn a diamod” am sylw a wnaeth yn ystod Cymanfa Ganu’r brifwyl yr wythnos ddiwethaf.

Mewn seremoni yn cyflwyno arweinydd Cymru ar Byd, Iori Roberts, roedd Eifion Lloyd Jones wedi cyfeirio at yr “anwariaid” y bu’n gweithio gyda nhw yn Uganda, Abergele a gogledd Lloegr.

Ar ôl i ffrae fawr godi yn dilyn y sylw hwn, fe gyhoeddodd y Llywydd ddau ddatganiad, gan ymddiheuro am “unrhyw bryder neu loes a achoswyd yn anfwriadol”.

Ond roedd nifer yn teimlo nad oedd yr ymddiheuriad yn ddigonol, gyda phennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, Dylan Foster Evans, yn cyhoeddi ddechrau’r wythnos ei fod yn dileu ei aelodaeth o’r Llys oherwydd y mater.

Erbyn hyn, mewn datganiad personol a gafodd ei ryddhau gan Eifion Lloyd Jones, mae wedi “ymddiheuro’n llawn a diamod” am y gair a ddefnyddiodd yn ystod y Gymanfa Ganu.

“Roedd yr Eisteddfod yr wythnos ddiwethaf yn ddathliad o gynhwysedd, amrywiaeth ac aml-ddiwylliant, pethau sydd i gyd yn agos at fy nghalon,” meddai.

“Rwy’n ymddiheuro’n llawn a diamod am y gair a ddefnyddiais yn seremoni Cymru’r Byd, a gallaf sicrhau pawb fy mod yn gyfan gwbl yn erbyn hiliaeth o unrhyw fath.”