Mae myfyriwr o Lanelli yn gobeithio medru atgoffa pobol o’r “aberth” a fu i greu rôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, trwy godi cerflun yn ei bentref genedigol.

#CofioJim yw enw’r ymgyrch, a nod Theo Davies-Lewis, 20, yw codi cerflun o Jim Griffiths, Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru, a chyn-Aelod Seneddol Llanelli.

Trwy gydol yr 1930au, ymgyrchodd Jim Griffiths am sefydliad y rôl, ac erbyn yr 1960au fe lwyddodd i berswadio’r Llywodraeth Lafur ar y pryd i’w sefydlu.

Ag Alun Cairns yn Ysgrifennydd Gwladol ar Gymru bellach, mae cwestiynau wedi’u codi am anghenraid y rôl. Ond i Theo Davies-Lewis mae hynny’n destun tristwch.

“Mae’n eitha’ trist [bod Jim Griffiths wedi’i anghofio],” meddai wrth golwg360.

“Mae’n drist achos ei fod yn bwysig cofio hanes. Gallech chi ddadlau ei fod yn bwysig cofio pwy ddaeth cyn ni, ac ati. Ond, mewn gwirionedd mae’n drist achos r’yn ni’n gallu dysgu lot [ohono] fe.

“… Petaswn ni’n ymwybodol o’r ymdrech a fu i gael Ysgrifennydd Gwladol, ac o gyfraniad Jim Griffiths. Wedyn, efallai, byddai pobol yn sylweddoli bod rhaid i ni gael y link yna.”

Mam-gu

Cafodd #CofioJim ei lansio bythefnos yn ôl, a hyd yma mae’r ymgyrch wedi denu tipyn o ymateb.

Mae Theo Davies-Lewis yn nodi mai parhau gwaith ei fam-gu y mae e’n ei wneud, mewn gwirionedd, a bod y cyfryngau cymdeithasol wedi’i alluogi i ddenu sylw at y mater.

“Roedd mam-gu yn brwydro dros gael rhywbeth i gofio Jim Griffiths yma,” meddai. “Felly really mam-gu [oedd y sbardun]! Ac mae hynny wedi tynnu pobol i mewn. Achos mae hyn yn beth personol.

“Dw i’n dweud trwy’r amser, ‘Dylai bod rhywun yn y blaid Lafur fod wedi dechrau hwn off’. Nid myfyriwr ugain blwydd oed yn Rhydychen …”

“Ond i fi, achos dw i wedi clywed lot amdano fe, achos bod mam-gu wedi siarad amdano fe, o’n i’n meddwl: ‘Nawr, mae rhaid fi fynd amdano fe a chodi sylw amdano Jim.”

Yr ymgyrch

Mae Theo Davies-Lewis wedi lansio deiseb a gwefan ar gyfer yr ymgyrch, ac eisoes wedi derbyn cefnogaeth gan sawl gwleidydd.

Mae Aelod Seneddol Llanelli, Nia Griffiths; Aelod Cynulliad Llanelli, Lee Waters; Maer Llanelli, David Darkin; ymhlith y gwleidyddion rheiny.

Theo Davies-Lewis sydd wedi talu am yr holl fenter o’i boced ei hun.