Mae nifer y plant a phobol ifanc sy’n defnyddio’r llinell gymorth, Childline, oherwydd pryder am ganlyniadau arholiadau ar gynnydd, yn ôl ffigyrau newydd.

Mae 84 o blant yng Nghymru wedi derbyn sesiynau cwnsela yn ystod y ddwy flynedd diwetha’, meddai’r elusen ac mae’r ffigwr yn debyg o fod yn uwch.

Roedd 43 wedi galw yn 2017-18 a 41 y flwyddyn gynt ond dyw llawer o’r galwyr i’r llinell ddim yn dweud o ble maen nhw’n dod.

Canlyniadau ar y ffordd

Mae’r ffigurau wedi cael eu cyhoeddi wrth i filoedd o bobol ifanc ddisgwyl canlyniadau Lefel ‘A’ fory ac arholiadau TGAU yr wythnos nesa’.

Trwy’r Deyrnas Unedig, mae 1,298 o blant a phobol ifanc wedi cael eu cwnsela yn ystod y flwyddyn ddiwetha’ oherwydd pryder am ganlyniadau arholiadau, sef cynnydd o 15% ers y flwyddyn gynt.

Mae’r ffigyrau hefyd yn dangos mai merched sydd fwya’ tebygol o ddefnyddio’r llinell gymorth, gan gyfrif am 74% o’r sesiynau cwnsela.

Angen siarad

“Rydym yn gwybod bod tipyn o bobol ifanc yn ei chael yn anodd ymdopi â phwysau tymor y canlyniadau,” meddai Des Mannion, Pennaeth yr elusen blant NSPCC Cymru sy’n cefnogi Childline.

“Mae’r dyhead i gael graddau da a sicrhau lle yn y brifysgol yn dipyn o bwysau.

“Rydym hefyd yn ymwybodol bod pobol ifanc, unwaith y maen nhw’n derbyn eu canlyniadau, yn bryderus ynglŷn â beth fydd yn digwydd nesa, yn enwedig os nad ydyn nhw’n derbyn y graddau yr oedden nhw’n disgwyl.

“Mae’n bwysig eu bod nhw’n rhannu sut maen nhw’n teimlo a thrafod eu dewisiadau gyda ffrind, oedolyn neu Childline.”