Fe fydd un o bwyllgorau’r Cynulliad yn ystyried a yw’r ddeddf iaith ddiweddara’ yn cefnogi cynnydd y Gymraeg, neu yn ei lesteirio.
Fe fydd y Pwyllgor Diwylliant, Iaith a Chyfathrebu hefyd yn edrych ar gynigion dadleuol y Llywodraeth ar gyfer deddf newydd, sy’n cynnwys dileu swydd Comisiynydd y Gymraeg a chreu Comisiwn ehangach yn ei lle.
Y trydydd maes fydd edrych ar esiamplau o waith gwell sy’n digwydd mewn gwledydd eraill.
‘Allweddol’
“Mae hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg a thwf yn y defnydd hwnnw yn rhan allweddol o faniffesto Llywodraeth Cymru,” meddai Bethan Sayed AC, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
“Mae wedi gosod targedau beiddgar o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, gan ddyblu’r nifer bresennol bron.
“Byddwn yn edrych yn fanwl ar effaith a manteision Mesur y Gymraeg o 2011, cyn ystyried sut y mae modd gwella deddfwriaeth a pholisi i gynnig cefnogaeth bellach.”
Mae argymhellion y Llywodraeth ar gyfer mesur iaith newydd yn cynnwys:
- Cyfyngu safonau iaith i ddim ond gwasanaethau
- Trosglwyddo’r cyfrifoldeb am hyrwyddo’r iaith o’r Llywodraeth i’r Comisiwn newydd
- Cyfyngu gwaith ymchwilio’r Comisiwn i gwynion “difrifol” yn unig.
Yn yr Eisteddfod yr wythnos ddiwetha’, fe fu Cymdeithas yr Iaith yn protestio yn erbyn y cynigion gan gyhuddo’r Llywodraeth o gynnig Deddf Iaith Wannach.
Mae cyfle i’r cyhoedd gymryd rhan hefyd, gyda chyfnod ymgynghori yn dechrau’n awr ac yn parhau am fis, tan 14 Medi.