Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod dau gar heddlu yn rhan o ddamwain draffig a fu ar ffordd brysur ger Caerfyrddin y bore yma (dydd Mawrth, Awst 14).

Bu’r digwyddiad am tua 1.20yb ar yr A48 rhwng Cross Hands a’r ffordd sy’n arwain at y Gerddi Botaneg yn Llanarthne.

Roedd tri cherbyd yn rhan o’r gwrthdrawiad, gyda dau aelod o’r cyhoedd mewn un cerbyd a phedwar plismon yn y ddau gerbyd arall.

Ni chafodd neb eu hanafu’n ddifrifol.

Mae’r darn o’r ffordd sy’n arwain i gyfeiriad y dwyrain bellach wedi’i hailagor, ond mae’r darn i’r gorllewin yn parhau ynghau.