Mae dros 170 o bobol wedi’u harestio yng ngogledd Cymru dros gyfnod o fis, yn rhan o ymgyrch a oedd yn targedu’r rheiny sy’n gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

Fe lansiodd y pedwar heddlu yng Nghymru’r ‘Ymgyrch Atal Yfed a Gyrru a Gyrru ar Gyffuriau Cenedlaethol’ yn gynharach eleni, gan ei gydredeg â chystadleuaeth Cwpan y Byd.

Roedd Heddlu Gogledd Cymru yn rhan o’r ymgyrch, a rhwng Mehefin 14 a Gorffennaf 14, fe gafodd 109 o bobol eu harestio am yfed a gyrru, a 65 am yrru o dan ddylanwad cyffuriau.

Y gwaith yn parhau

“Ni allaf bwysleisio gymaint yw’r peryglon mae’r bobol yma yn eu hwynebu, nid yn unig i’w hunain ond i ddefnyddwyr ffyrdd eraill,” meddai’r Uwch-arolygydd dros dro, Paul Joyce.

“Mae’r ymgyrch wedi dod i ben, ond mae’r gwaith o dargedu gyrwyr sy’n gyrru o dan ddylanwad yn parhau drwy’r flwyddyn.

“Dylai unrhyw un sy’n meddwl yfed a gyrru neu yrru ar gyffuriau wybod y byddwn yn disgwyl amdanyn nhw.”