Mae ychydig yn rhagor mewn gwaith yng Nghymru, ac ychydig yn llai yn ddi-waith, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Rhwng Ebrill a Mehefin eleni roedd 74.2% o bobol Cymru yn gweithio – cynnydd o 0.8% o gymharu â’r cyfnod rhwng Ionawr a Mawrth.

Ac yn ystod yr un cyfnod, roedd 4.3% o’r genedl yn ddi-waith – cwymp o 0.1% (mil yn llai o bobol) o gymharu â thri mis cyntaf y flwyddyn.

Dros wledydd Prydain oll doedd dim newid i’r ganran o bobol oedd mewn gwaith, sef 75.6%. Ac o ran lefel y diweithdra yn y Deyrnas Unedig, roedd ‘na gwymp o 0.2% i 4%.

Daw’r ystadegau o gasgliad diweddaraf y Swyddfa Ystadegau.