Y llenor a’r dramodydd o Bencarreg, Heiddwen Tomos, oedd yn ail am Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni.

Hi oedd ‘Bachan’ yn y gystadleuaeth, ac roedd ei nofel, Esgyrn, wedi cael ei gosod ar frig y Dosbarth Cyntaf gan ddau o’r tri beirniad, sef Meinir Pierce Jones a Bet Jones.

Roedd y trydydd beirniad, Gareth Miles, o blaid gwaith yr enillydd, Mari Williams, er ei bod hi ar y dechrau lawer is gan y ddwy arall.

Ar ôl trafodaeth, medden nhw, fe aeth y tri o blaid Ysbryd yr Oes gan Mari Williams, gan ddweud nad oedd nofel Heiddwen Tomos yn bodloni’r rheol bod rhaid cael ‘llinyn storïol cryf”.

Agos eto

Dyma’r eildro i Heiddwen Tomos ddod yn agos at gipio’r Daniel Owen, ar ôl i’w nofel Dŵr yn yr Afon, a gafodd ei chyhoeddi gan Gomer y llynedd, ddod i blith y goreuon yn 2016.

Mae golwg360 wedi cael cadarnhad gan yr awdures bod yna drafodaethau yn digwydd i gyhoeddi Esgyrn erbyn “y Nadolig”, gyda’r Lolfa.

“Nofel cefn gwlad yw hi,” meddai Heiddwen Tomos wrth golwg360. “Mae hi’n sôn am Dad-cu a dou ŵyr sy’n dod i aros ar y ffarm am gyfnod, gydag un yn ei arddegau a’r llall mewn cadair olwyn.

“Mae’n nofel eitha’ ysgafn – ysgafnach i raddau efalle na fy nofel gynta’ i.”

Wythnos brysur

Fe gafodd yr awdures wythnos brysur yn y brifwyl yng Nghaerdydd, gyda’i drama, Milwr yn y Meddwl, yn cael ei pherfformio dros gyfnod o bum noson.

Dyma’r ddrama a ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Môn y llynedd.

Roedd y cynhyrchiad yn  gydweithrediad rhwng Theatr Sherman, Theatr Cenedlaethol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol, ac mae Heiddwen Tomos yn “gobeithio” y bydd yn mynd ar daith yn y dyfodol agos.