Mae dyn wedi cael ei arestio yn dilyn damwain ffordd farwol ger Caerfyrddin fore ddoe.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 6 i’r A484 rhwng Caerfyrddin a Chwmffrwd, lle bu Volvo V50 llwyd mewn gwrthdrawiad â Toyota Avensis lliw arian.

Bu farw un o yrwyr y ceir o’i anafiadau ar ôl cael ei gludo i’r ysbyty.

Mae gyrrwr y car arall, sef dyn 25 oed o Gaerfyrddin, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.

Mae hefyd yn cael ei amau o yrru o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.