Dylai’r Eisteddfod Genedlaethol ddychwelyd i Gaerdydd unwaith bob pum mlynedd, yn ôl arweinydd cyngor y ddinas.

Cafodd y brifwyl ei chynnal ym Mae Caerdydd eleni, gyda Chanolfan y Mileniwm yn bafiliwn ac adeilad y Senedd yn gartref i arddangosfa gelf.

Ac yn ôl Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, roedd y digwyddiad yn un “hynod”.

O ystyried bod ymweliad diwetha’r brifwyl rhyw ddegawd yn ôl, mae Huw Thomas wedi galw am drafodaeth i sicrhau ymweliadau amlach.

“Rwy’n credu ei bod yn addas nawr i ni gymryd y cyfle i drafod y posibilrwydd o ddod â’r Eisteddfod i Gaerdydd yn fwy rheolaidd, bob rhyw bum mlynedd er enghraifft,” meddai.

“Mae eleni wedi rhoi man cychwyn i ni ddatblygu ohono, ac rwy’n awyddus i sicrhau ein bod ni’n gwneud hynny, gan weithio â’n partneriaid yn yr Eisteddfod.”

Dim ffiniau

Cafodd yr Eisteddfod ei chynnal rhwng Awst 3 a 11, ac yn wahanol i’r arfer, roedd mynediad am ddim.

Doedd dim ffensys na muriau yn amgylchynu’r maes, ac ym marn Huw Thomas, mae hynny’n rhywbeth i’w groesawu.

“Bu i’r ffaith nad oedd ffiniau’n amgáu’r Eisteddfod eleni yn helpu i greu gŵyl agored, gynhwysol a chroesawgar i bawb, yn debyg i Gaerdydd ei hun,” meddai.

“Roedd yn wych bod yn rhan ohoni ac rwy’n gobeithio y gallwn fynd ymlaen i adeiladu ar y digwyddiad rhagorol hwn.”