Mae gwraig yr Aelod Cynulliad UKIP Neil Hamilton wedi’i beirniadu am gymharu penwisg draddodiadol Mwslimiaid gyda gwisg y KKK (Ku Klux Klan).

Mae Christine Hamilton wedi’i symud o’i rôl yn llysgennad elusen Dystroffi’r Cyhyrau y DU yn sgil ei sylwadau ar Twitter.

Postiodd hi lun o’r Ku Klux Klan gyda’r capsiwn, “Os yw’r burka yn dderbyniol yna mae hwn hefyd, am wn i?”

Daw ei sylwadau yn fuan ar ôl i gyn-Ysgrifennydd Tramor San Steffan, Boris Johnson gymharu menywod Islamaidd mewn burka â blychau post a lladron banc.

A heddiw, mae arweinydd newydd UKIP yng Nghymru, Gareth Bennett hefyd wedi ychwanegu ei lais at y rhai sy’n gwrthwynebu’r wisg draddodiadol, gan ddweud bod y wisg yn “gyn-ganoloesol” ac yn “estron”.

Wrth amddiffyn ei hun, dywedodd Christine Hamilton bod ei neges yn un “â’i thafod yn ei boch”, gan wadu ei bod hi’n cymharu Mwslimiaid gyda’r KKK. Dywedodd fod gorchuddio’r wyneb yn “sinistr”.

Wrth egluro penderfyniad yr elusen, dywedodd y prif weithredwr Robert Meadowcroft ei fod yn “adlewyrchu’n llawn werthoedd yr elusen”.

Dywedodd Christine Hamilton y byddai hi’n dileu unrhyw gyfeiriad at yr elusen o’i thudalen Twitter er mwyn osgoi “embaras”.