Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru roi arian i’w gwneud hi’n bosib i eisteddfodau’r dyfodol gynnig mynediad am ddim i ymwelwyr.

Fe allai hynny fod yn rhan o’u hymgyrch i gyrraedd eu targed o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050, meddai Elfed Roberts.

Mae ei gyfnod wrth y llyw yn dod i ben ddiwedd y mis hwn, ac wrth ddweud cyn lleied o’r arian sydd ei angen i gynnal y brifwyl sy’n dod o gyrff cyhoeddus fel y llywodraeth, mae’n credu o ddifri’ y gallai cynnig mynediad am ddim i’r Maes bob blwyddyn fod yn help.

“Dw i wedi bod yn siarad lot efo gwleidyddion yr wythnos hon, ac wedi bod yn gwneud y pwynt nad ydi’r Eisteddfod yn derbyn cymaint â hynny o arian cyhoeddus, a bod canran helaethaf yr arian sydd ei angen bob blwyddyn yn dod o nawdd cwmniau preifat a’r hyn y mae pwyllgorau lleol yn ei gasglu,” meddai Elfed Roberts ar raglen Tocyn Wythnos, Radio Cymru, nos Wener (Awst 10).

“Os ydi’r llywodraeth o ddifri’ am gyrraedd y miliwn o siaradwyr, efallai bod dod â mwy o bobol at y Gymraeg, trwy helpu’r Eisteddfod i gynnig mynediad am ddim, yn ffordd o wneud hynny.”

Fe fydd Elfed Roberts yn camu o’r swydd ddiwedd mis Awst, a Betsan Moses yn cymryd ei le.