Mae negeseuon o Gatalwnia yn dweud fod cefnogwyr annibyniaeth yno yn diolch am gefnogaeth Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’r ymgyrch.

Fe ddaw’r diweddara’ wedi i gyn-Lywydd Senedd Catalwnia, Forcadell Carme, gael ei dwyn i’r ddalfa i aros achos llys yn ei herbyn. Mae wedi’i arestio am iddi ganiatau dadl ar annibyniaeth yn y senedd yno.

Ond mae’n gwerthfawrogi sylwadau a gafodd eu gwneud gan Elin Jones, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn y siambr ddydd Iau (Awst 9).

“Thanks for your support, Llywydd!” meddai mewn neges ar ei chyfrif Twitter sy’n cael ei rhannu’n helaeth ar y we gan garedigion yr ymgyrch: