Mae enillydd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn dweud ei bod yn bwysig bod bardd yn “meithrin perthynas â’i gynulleidfa”.

Ond mae hefyd yn mynnu bod angen “trio pethe newydd” o fewn hynny.

Fe gipiodd Gruffudd Owen o Gaerdydd y Gadair ar ei ymgais gyntaf gydag awdl ar y testun ‘Porth’. Roedd y beirniaid yn gytûn bod yna dri ymgeisydd ar y brig eleni, ond awdl ‘Hal Robson Kanu’ – sef ffugenw Gruffudd Owen – oedd yr un a aeth “â gwynt” Ceri Wyn Jones, Rhys Iorwerth ac Emyr Davies.

Mae’r awdl fuddugol yn trafod perthynas pobol gyda’i ffonau symudol, a sut mae hynny’n diffinio eu bywydau.

Yn ôl ei hawdur, mae’n awdl “lai traddodiadol” sy’n perthyn i’w genhedlaeth ef, ac yn cynnwys “sinigiaeth iach” a “dogn go dda o hiwmor a gonestrwydd.”

“Mae’n awdl o ddifri,” meddai Gruffudd Owen wrth golwg360. “Ond mae hiwmor yn rhywbeth o ddifri’ hefyd, yndê.

“Mae bywyd yn ddigon doniol – hyd yn oed yn yr oriau dua’, mae yna le i chwerthin o hyd.”

Mae modd gwylio’r cyfweliad yn llawn yn y fideo isod: