Mae’r Aelod Cynulliad, Vaughan Gething, bellach gyda digon o gefnogaeth i sefyll am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.

Mewn datganiad a gafodd ei gyhoeddi ar brynhawn ddydd Gwener (Awst 10) mae’r Aelod Cynulliad, Ann Jones, wedi dweud y bydd yn cefnogi’r ffigwr.

Roedd yr Ysgrifennydd Iechyd eisoes wedi taflu ei het i’r cylch, ac wedi derbyn enwebiadau gan bedwar o’i gyd-aelodau Cynulliad Llafur.

Ond, roedd angen un enwebiad arall arno er mwyn ymuno â’r gystadleuaeth.

Dim ond Vaughan Gething a Mark Drakeford sydd yn y ras ar hyn o bryd, tra bod Eluned Morgan ac Alun Davies wedi taflu’u henwau i’r het.