Mae Eifion Lloyd Jones wedi cael ei ailethol yn Llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol er gwaetha’ ymgais i’w atal.

Roedd rhai wedi galw ar iddo ymddiswyddo, a hynny wedi iddo gyfeirio at bobol Uganda fel “anwariaid” mewn araith.

Hefyd roedd ei feirniaid yn dweud ei fod wedi methu ag ymddiheuro yn iawn am hynny.

Fe ddywedodd Eifion Lloyd Jones mewn datganiad fod pobol wedi “camddehongli” ei sylwadau.

Yng nghyfarfod y Llys heddiw, fe gafwyd cynnig gan yr ymgyrchwr Marc Phillips yn ceisio’i atal rhag cael ei ailethol.

Yn y diwedd, fe bleidleisiodd mwyafrif aelodau’r Llys o’i blaid.