Mae papur newydd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi ei gyhoeddi yn gyfan gwbl yn yr iaith Gymraeg am y tro cyntaf erioed.

Bu Gair Rhydd yn cael ei gyhoeddi ar gyfer myfyrwyr y brifddinas ers 1972.

Ond er bod y papur gan amlaf yn cynnwys un adran Gymraeg o’r enw ‘Tafod’, dyma’r tro cyntaf i rifyn cyfan gael ei gyhoeddi trwy gyfrwng y Gymraeg.

Grŵp o fyfyrwyr newyddiaduriaeth, sy’n rhan o’r prosiect ‘Llais y Maes’, sy’n gyfrifol amdano, ac mae’n cynnwys straeon yr wythnos o Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Angen y Gymraeg

Yn ôl Liam Ketcher, un o olygyddion y rhifyn eisteddfodol, mae yna angen wedi bod ers blynyddoedd am fwy o gynnwys Cymraeg yn y papur newydd.

“Mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, maen nhw’n eitha’ beirniadol o’r diffyg Cymraeg weithiau, ac mae Gair Rhydd yn y gorffennol wedi bod yn colli’r Gymraeg o’i gynnwys,” meddai wrth golwg360.

“Mae wedi gwella yn y blynyddoedd diweddar, ac eleni wrth glywed bod yna rifyn llawn am yr Eisteddfod yn mynd i fod – a thrwy gyfrwng y Gymraeg – yn amlwg roedd pawb eisiau bod yn rhan ohono.

“Roedd e’n hawdd cyfieithu’r adrannau gwahanol i’r Gymraeg felly, a’r un fath o gynnwys yw e, ond trwy gyfrwng y Gymraeg.”

‘Cadw’r ethos’

Mae’r rhifyn arbennig yn cynnwys amrywiaeth o ran cywair, gyda dim ond tudalen yn rhannu straeon caled fel yr un am ostwng yr oedran pleidleisio a chartŵn tafod yn y boch o’r Archdderwydd yn croesawu Donald Trump.

Mae’r amrywiaeth hon, meddai Liam Ketcher, er mwyn cael ymwelwyr y brifwyl i “ddod at y papur”, ac mae’n pwysleisio bod y rhifyn newydd yn rhad ac am ddim.

“Dyna’r pwrpas – Gair Rhydd/Free Word,” meddai. “Mae popeth am ddim ac fe allech chi ddweud beth ydych chi moyn ei ddweud.

“Mae[‘r rhifyn arbennig] wir yn dal ethos y papur gwreiddiol lle mae pobol yn gallu dweud eu dweud a rhoi eu barn nhw ar bapur.”