Roedd Geraint Jarman yn un o’r rheiny a gafodd ei dderbyn i Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw (dydd Gwener, Awst 10).

Mewn sesiwn yn y Babell Lên ddoe, roedd wedi datgan ei fod yn gobeithio gwisgo ei shêds yn y seremoni.

Ond wrth iddo gamu o flaen y Maen Llog y bore yma, doedd dim golwg ohonyn nhw ar ei ben.

Roedd yn cael ei urddo i’r wisg werdd am ei gyfraniad i gerddoriaeth Gymraeg, a’r enw barddol y mae wedi’i dewis yw ‘Geraint Glanrafon’.

Mae’r enw hwnnw, meddai yn y sesiwn ddoe, yn cyfeirio at gyfnod yn ei blentyndod pan oedd yn byw yn ardal Glanrafon yng Nghaerdydd, sef ardal ddosbarth gweithiol amlddiwylliannol.

Eraill yn cael eu derbyn i’r Orsedd heddiw oedd y darlledwyr Vaughan Roderick a John Hardy, a’r diddanwyr Mici Plwm ac Ifan Tregaron.