Mae cwrw sydd wedi’i enwi ar ôl bos yr Eisteddfod Genedlaethol wedi gwerthu’n “dda iawn”, yn ôl gweithiwr yn un o fariau’r Brifwyl

Yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd fydd yr olaf i Elfed Roberts wrth y llyw, wrth iddo ymddeol wedi chwarter canrif yn Brif Weithredwr y Brifwyl.

Er mwyn nodi’r achlysur, mae’r cwmni bragu cwrw o ogledd Cymru, Cwrw Llŷn, wedi bragu cwrw arbennig – mae Cwrw Elfed yn cael ei werthu o far Syched.

Yn ôl Gwen Gravell, sydd wedi bod yn gweithio y tu ôl i’r bar trwy gydol yr wythnos, mae’r cwrw arbennig wedi profi’n ffefryn gydag yfwyr y Brifwyl.

“Mae e wedi gwerthu yn rili dda. Dyma un o’r top sellers yn ystod yr wythnos hon,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n meddwl ei fod wedi bod yn boblogaidd oherwydd blwyddyn olaf Elfed yw e, ac mae’n spesial am hynny.

“Mae lot o bobol wedi dod i’r bar, yn enwedig ddoe pan oedd Geraint Thomas yma.”

Y gost?

Mae peint o Gwrw Elfed yn costio £5, gyda hanner peint yn £2:50.

Ond i’r rheiny sy’n prynu am y tro cyntaf, mae’n rhaid iddyn nhw dalu £1 yn ychwanegol ar gyfer gwydryn plastig.