“Mae Leanne Wood yn fwy poblogaidd gyda phleidleiswyr Llafur nag unrhyw un sy’n debygol o olynu’r [Prif Weinidog] Carwyn Jones.”
Daw’r sylw oddi wrth yr Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Dai Lloyd, wrth iddo ddatgan ei fod am weld Leanne Wood yn aros yn arweinydd ar y blaid.
Yr Aelodau Cynulliad Rhun ap Iorwerth ac Adam Pric, sydd yn ei herio am y rôl, ac erbyn hyn mae pob ymgeisydd wedi derbyn cefnogaeth gan ffigyrau amlwg o’r blaid.
Hyd yma mae Cynog Dafis, un o hoelion wyth y blaid, wedi datgan ei fod yn cefnogi Adam Price, ac mae Dafydd Wigley, cyn-arweinydd y blaid, yn cefnogi Rhun ap Iorwerth.
“Denu pleidleisiau”
“Rwy’n cefnogi Leanne Wood oherwydd ei hymroddiad a’r penderfyniad hwn i fod yn Brif Weinidog yn 2021,” meddai Dai Lloyd wrth ddatgan ei gefnogaeth.
“Er mwyn cael y canlyniad sydd ei angen, fel y gallwn fod yn y sefyllfa honno, rhaid inni ddenu pleidleisiau cefnogwyr Llafur.
“Mae arolwg ar ôl arolwg wedi dangos bod Leanne yn fwy poblogaidd gyda phleidleiswyr Llafur nag unrhyw un sy’n debygol o olynu Carwyn Jones.
“Os ydym ni’n ddifrifol am greu newid, mae angen inni wneud y fathemateg.”