Mae disgwyl protest y tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd am hanner dydd heddiw yn erbyn enwi’r Ail Bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru ar ôl y Tywysog Charles.

Mae’n ymddangos mai’r grŵp Welsh Independence Memes for Angry Welsh Teens sydd wedi ei threfnu ac mae dros 400 yn dweud bod nhw’n mynd neu ‘â diddordeb’ body no.

Wrth siarad â chylchgrawn Golwg ddydd Mawrth, roedd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, sy’n gyfrifol am newid yr enw, yn cyfaddef bod y penderfyniad yn dal i fod yn amhoblogaidd mewn “rhai cymunedau”.

“Mae rhyddid i unrhyw un brotestio fel maen nhw mo’yn a buaswn i’n amddiffyn unrhyw un sydd eisiau protestio hefyd,” meddai am y brotest heddiw.

LOL

Mae Alun Cairns, ynghyd â Carwyn Jones, ar glawr cylchgrawn LOL ac yn cael ei golbio am ei ran yn helynt ail-enwi’r bont a bu hefyd yn destun cân ddychanol yn rownd derfynol y Talwrn eleni.

Ond dim ond “banter Eisteddfod” yw’r feirniadaeth ohono, yn ôl Ysgrifennydd Cymru.

“Fi’n edrych ymlaen at gael gweld LOL, fi wedi prynu LOL ymhob Eisteddfod fi’n credu bod fi wedi ynddo. Mae e’n banter naturiol Eisteddfod,” meddai wedyn.

Mwy yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.