Wrth iddi geisio dal ei gafael ar arweinyddiaeth ei phlaid, mae Leanne Wood wedi dweud mai un flaenoriaeth ganddi yw helpu teuluoedd ifanc i fedru fforddio tai yng nghefn gwlad.

Yn ôl Arweinydd presennol Plaid Cymru, “mae teuluoedd ifanc yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai gan berchnogion eiddo cyfoethog sy’n aml wedi symud i ardaloedd gwledig tua diwedd eu bywyd gwaith”.

“Mae’r ‘boneddigeiddio’ yma,” meddai, “yn cloffi cymunedau gwledig Cymru ble mae pobl ifanc yn cael eu gorfodi i ganfod tai a gwaith yn rhywle arall.

“Wrth i’r genhedlaeth nesaf gael ei gwthio allan o’n cymunedau gwledig mae niwed yn digwydd i’n heconomi, i’r iaith Gymraeg ac i’n cymunedau yn gyffredinol.”

Tai dros dro

Mae Leanne Wood wedi llunio argymhellion i geisio mynd i’r afael â’r prinder tai i bobol leol mewn ardaloedd gwledig.

Yn ôl yr Arweinydd sy’n wynebu her gan Adam Price a Rhun ap Iorwerth, mae angen “chwyldro ym maes tai” ac mae yn addo cyflwyno mesurau i rwystro pobol leol rhag cael eu prisio allan o ardaloedd gwledig, os bydd yn Brif Weinidog.

Nod ei chynigion, sy’n cynnig argymhellion i gynghorau sir, yw cael gwared ar restrau aros tai cymdeithasol o fewn degawd.

Mae hefyd am weld Cymru yn dod yn arweinydd ym myd tai cynaliadwy ac ecogyfeillgar, ac yn cynnig mesurau newydd i gynghorau sefydlu tai dros dro sydd yn gallu cael eu tynnu lawr neu eu symud i leoliadau eraill fel mae’r galw yn newid dros amser.

Ffafrio trigolion lleol

Ac mae Leanne Wood hefyd yn galw am i Gymru gael y pŵer dros dreth etifeddiant a chyflwyno system debyg i’r Yswiriant Gwladol, lle fydd y dreth bydd pobol yn ei thalu yn gysylltiedig â nifer y blynyddoedd bu’r unigolyn yn byw ac yn gweithio yng Nghymru cyn ymddeol.

Yn ôl Leanne Wood, bydd y system newydd yn ffafrio’r rhai sydd wedi cyfrannu i’r economi leol.

“Mae dod yn genedl annibynnol yn dibynnu ar ein gallu i adeiladu economi wledig gynaliadwy yng Nghymru.

“Golyga hyn lywodraeth Plaid Cymru sydd yn gweithio gydag awdurdodau lleol er mwyn sicrhau fod pawb yn gallu cael mynediad i dai addas a fforddiadwy yn eu cymunedau eu hunain, yn hytrach na gadael materion mor bwysig i fympwy datblygwyr sydd yna’n bennaf i wneud elw cyflym…

“Dydi hyn ddim yn gymhleth nac yn ddadleuol – mae’n rhaid i dai i bobol leol fod yn hawl yn hytrach nag yn fraint.”