Mae Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi galw Cymru yn “wlad beirdd a chantorion, a seiclwyr o fri” wrth groesawu Geraint Thomas, enillydd y Tour de France i Fae Caerdydd.

Roedd miloedd o bobol ar risiau’r Senedd i groesawu’r beiciwr – sy’n un o feibion y brifddinas – yn ôl adref wedi ei fuddugoliaeth.

Ar ôl derbyniad yno, mae’n gwneud ei ffordd i Gastell Caerdydd ar gyfer seremoni swyddogol gan y Cyngor.

Band Pres Llareggub, ynghyd â rhai cerddorion Cymraeg eraill, oedd yn cyfeilio wrth i’r dorf fywiog aros i weld Geraint Thomas yn ymddangos – yn ei siwmper lwyd, nid ei jersi felen – i dderbyn cymeradwyaeth eisteddfodwyr a phobol y brifddinas.

Mae wedi tanio dychymyg y genedl wedi iddo fynnu cario’r Ddraig Goch yn ystod y seremoni wobrwyo ar ddiwedd y ras yn Ffrainc, yn hytrach nag arddel Jac yr Undeb, baner arferol Tim Sky.

“Mae’r rhan fwya’ o bobol yn breuddwydio mewn du a gwyn, ond mae Geraint yn breuddwydio mewn melyn,” meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedyn, wrth ganmol Geraint Thomas.

Fe dderbyniodd Geraint Thomas hefyd baentiad ohono’n croesi’r llinell derfyn…