Mae cefnogwyr yn cael eu hannog i ddod i Fae Caerdydd i gyfarch enillydd y Tour de Ftance – ond i adael eu beiciau gartref.

Oherwydd bod disgwyl tyrfaeodd mawr ym Mae Caerdydd y pnawn yma (dydd Iau, Awst 9), ar ynweliad Geraint Thomas, mae yna reolau mewn lle o ran cadw pawb yn ddiogel.

Un o’r prif ganllawiau ydi i bobol beidio â reidio’u beic i’r Bae, gan fod beic, yn ôl yr awdurdodau, yn cymryd lle pedwar o bobol mewn ardal gyfyng.

Mae Heddlu De Cymru, Cyngor Caerdydd a’r Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn carl cyfarfodydd dyddiol er mwyn paratoi ar gyfer ymweliad Geraint Thomas â’r Senedd am 4.15yp.

Fe fydd yn mynd o Fae Caerdydd, yn dilyn derbyniad gan y Llywydd, i seremoni swyddogol yng Nghastell Caerdydd.