Mae yna “ddirywiad” yn nifer y cyrff newyddion annibynnol sydd yng Nghymru o gymharu â 30 mlynedd yn ôl, meddai sefydlydd cwmni Golwg Cyf.

Mae eleni’n dynodi deng mlynedd ar ugain ers i gylchgrawn Golwg gael ei gyhoeddi am y tro cyntaf, gyda’r rhifyn cyntaf un yn ymddangos ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd yn 1988.

Ers hynny, mae’r cwmni wedi mynd o nerth i nerth, ac mae bellach yn gyfrifol am gyhoeddi cylchgronau i blant a dysgwyr, sef Wcw a Lingo, ynghyd â’r gwasanaeth newyddion ar-lein, golwg360.

Yn ôl Dylan Iorwerth, mae’n “drist” mai cwmni Golwg Cyf yw’r unig gorff newyddion annibynnol Cymreig bellach.

“Ni ydy’r unig gorff newyddion cenedlaethol yng Nghymru, am wn i, sydd ddim yn rhan o rywbeth mwy ar lefel Brydeinig, sef yr unig beth cwbwl Cymreig, ac mae hynny’n dangos dirywiad,” meddai wrth golwg360.

Parhad cyfryngau print yn “bwysig”

Er bod y Golygydd Gyfarwyddwr yn cydnabod bod y ffordd y mae newyddion yn cael ei adrodd wedi newid yn y 30 mlynedd diwethaf, mae’n mynnu bod parhad cylchgrawn print fel Golwg – ochr yn ochr â phresenoldeb ar-lein – yn “bwysig”.

“Mae wedi mynd yn fwy anodd i gynnal cylchgrawn print ac wrth gwrs rydan ni wedi sefydlu golwg360 i roi gwedd hollol wahanol ar y math o waith rydan ni’n ei wneud…” meddai.

“Mae’r ddau gyfrwng yn ofnadwy o bwysig, ac mae’n bwysig bod gan unrhyw genedl gymaint ag sydd bosib o gyfryngau, yn enwedig cyfryngau poblogaidd.”

Mae modd gwrando ar y cyfweliad llawn yn y fideo isod…