Mae merch ysgol 15 oed o Wrecsam yn rhyddhau albwm ar label Decca, wedi i un o sgowtiaid y cwmni ei chlywed yn perfformio yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Fe fydd albwm Elan Catrin Parry, Angel, yn cael ei bwrw i’r byd gan yr un cwmni a ddaeth â’r soprano, Katherine Jenkins, i sylw’r byd.

Hi yw’r ferch gyntaf i arwyddo gyda Decca ers Katherine Jenkins – ac roedd hynny 15 mlynedd yn ol, pan oedd hi’n fabi bach.

Ac mae sengl o’r albwm, ‘Anfonaf Angel’ gan Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn, eisoes i’w chlywed ar y cyfryngau cymdeithasol, wrth i’r gantores hefyd egluro mewn fideo cyhoeddusrwydd ei bod yn aelod o’r Urdd, yn ddisgybl yn Ysgol Morgan Llwyd, ac wedi hen arfer ganu yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae ganddi hefyd ei fersiwn ei hun o ‘Calon Lân’ ar yr albwm.

“Yn fwy na dim, dw i eisiau i bobol wrando ar yr albwm, a’i mwynhau hi gymaint ag yr ydw i wedi mwynhau ei recordio hi,” meddai Elan Parry ar y fideo.