Mae Llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi datganiad, wedi i sylwadau a wnaeth am “anwariaid” Uganda, Rhyl a gogledd Lloegr o’r llwyfan yn ystod y Gymanfa Ganu ddydd Sul (Awst 5) ddenu cwynion.

Ond mae Eifion Lloyd Jones yn dweud fod y sylwadau, wrth gyflwyno arweinydd Cymry a’r Byd, Iori Roberts, wedi cael eu cymryd y ffordd anghywir, ac nad oedd hi’n fwriad ganddo sarhau pobol Affrica na rhannau eraill o Gymru na Lloegr.

Roedd wedi cyfeirio’n ysgafn at ‘anwariaid’ y bu Iori Roberts yn gweithio gyda nhw yn Uganda, yn y Rhyl ac wedyn yng ngogledd Lloegr, ac er bod y sylwadau wedi cael eu golygu allan o ddarllediad y gymanfa ar radio, roedden nhw wedi’u cynnwys yn y darllediad teledu ar S4c am 8yh nos Sul.

“Mae’n amlwg bod popeth wedi’i gymryd allan o’i gyd-destun,” meddai Eifion Lloyd Jones, Llywydd y Llys yn y datganiad.

“Yn sicr, nid oedd unrhyw fwriad i dramgwyddo neb, boed o Gymru, Lloegr neu unrhyw wlad arall.”

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dweud na fydd hi’n gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater.

Be’ gafodd ei ddweud?

Wrth gyfeirio at gyfnodau Iori Roberts yn athro yn Uganda ac yn Ysgol Emrys ap Iwan, Abergele, mae Eifion Lloyd Jones yn dweud “dw i ddim yn siwr lle’r oedd yr anwariaid gwaethaf”.

“Cyfnod, wedyn,” meddai Eifion Lloyd Jones, “yng ngogledd Lloegr – anwariaid, mae’n siwr”.

Pwy ydi Iori Roberts?

Yn wreiddiol o Amlwch, Môn, fe adawodd Iori Roberts Gymru ar gwch banana yn 1964, a theithio i Jamaica, lle bu’n gweithio mewn ysgol. Dychwelodd i Gymru am dair wythnos cyn hedfan i Uganda i fod yn athro mewn ysgol yn Gulu.

Dychwelodd i Gymru gyda’i deulu ifanc a threulio blwyddyn yn athro yn Ysgol Emrys ap Iwan, Abergele, ond roedd yr awydd i weld y byd yn ormod unwaith eto, a symudodd yn ôl i India’r Gorllewin gan dreulio dwy flynedd yn dysgu yn Ynysoedd y Cayman. Dychwelodd i wledydd Prydain i fod yn athro yng ngogledd Lloegr, cyn symud, ‘am y tro olaf’, i Norwy.

Fe aeth ati gyda dau ffrind i sefydlu Cymdeithas Cymry Oslo. Bu’n byw yn Norwy am bron i ddeng mlynedd ar hugain cyn ‘hanner ymddeol’ a dychwelyd i Uganda i weithio’n wirfoddol gyda mudiad sy’n edrych ar ôl plant amddifad.

Ar ôl symud yn ôl i Norwy, bu’n mynd â grŵp draw i Watoto, Uganda, bob blwyddyn, i adeiladu tai ar gyfer y plant amddifad. Mae Iori a’i wraig hefyd wedi bod yn gweithio mewn rhan ddifreintiedig o Uganda yn rhedeg cyrsiau ar sut i wneud profion ffiseg.