Mae enillydd y Fedal Ryddiaith wedi gosod ei gwaith buddugol yng Nghymru ôl-apocolyptaidd gan fod ynni niwclear “o bryder personol” iddi.

Llyfr Glas Nebo ydi enw cyfrol fuddugol, Manon Steffan Ros, ac mae’r darn yn trafod yr hyn sy’n digwydd yng ngogledd Cymru yn dilyn damwain niwclear.

‘Ynni’ oedd testun y gystadleuaeth, a’n siarad gyda golwg360 mae’r llenor sy’n hanu o ogledd Cymru – cartref gorsaf niwclear Wylfa – wedi dweud bod mynd i’r afael â’r pwnc wedi bod yn broses naturiol iddi.

“Dw i wedi eisiau sgwennu gwyddon-ias ers talwm,” meddai. “Wedyn roedd hynny yn ffitio mewn i sgwennu am ynni niwclear. Felly dyna oedd y testun perffaith fi.

“… Roeddwn i’n teimlo’r angen i sgwennu amdano fo. A beth fuasai’r realiti petasai ‘na rhywbeth yn mynd o’i le yn Wylfa. Dw i ddim yn siŵr pam wnes i osod o yna, ond mae ‘na rhyw hud am y lle.”

Gallwch wylio cyfweliad â hi isod: