Mae hi’n hen bryd i’r Eisteddfod Genedlaethol barhau i rannu’r diwylliant Cymraeg a gwneud hynny drwy groesi’r ffin i Loegr – dyna farn yr actor, Rhys Ifans.

Mewn sesiwn holi ac ateb ym mhabell Sinemaes yn yr Eisteddfod ddiwedd prynhawn Mercher, dywedodd y dylai’r Eisteddfod barhau i fod yn “ddewr”.

“Mae yna ddewrder wedi bod yn niwylliant Cymraeg ers rhai blynyddoedd bellach,” meddai, mewn sesiwn yn y Sinemaes a oedd yn cael ei threfnu gan BAFTA Cymru ac Into Film.

“Mae’n amser i ni ddechrau bod yn falch ac yn ddewr ac i rannu beth sy’ ganddon ni – ac mae gŵyl fel hwn yn gyfle ac yn gyfrwng gwych i wneud hynna.”

Croesawu aml-ddiwylliannedd

“Mae wedi llonni ’nghalon i gweld cymaint o Gymry di-Gymraeg yn gwirioni, rhai ohonyn nhw heb glywed y Gymraeg ar raddfa fel hyn o’r blaen,” meddai Rhys Ifans.

“Dw i’n meddwl ei fod o’n genhadaeth bwysig iawn i’r Eisteddfod feddwl amdano fo, a dysgu o’r profiad yma a’i gario fo mlaen efallai, mewn ffurf eraill, nid yn unig yng Nghymru, falle, ond yn y dyfodol. Mae hi’n amser gwneud dawn raid dros y ffin a chynnal eisteddfod yn ganol Llundain, falle, neu rhywbeth, dw i ddim yn gwybod…

“Roedd o’n grêt cerdded drwy’r Maes a gweld … ro’n i’n sbïo un ffordd ac yn gweld yr Orsedd, ac wedyn mi welais i deulu o ferched mewn saris, ac mi wnes i double take, a meddwl ‘iasgob mawr, mae’r Orsedd wedi mynd yn ffynci!’ Mae o’n grêt, jyst gweld pobol aml-ddiwylliedig yn mwynhau gŵyl Gymraeg. Hen bryd a hir oes i’r agwedd yna.”