Fe fydd gorsaf radio newydd sbon yn hybu annibyniaeth i Gymru yn darlledu am y tro cyntaf o Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd heno (nos Fercher, Awst 8).

Bydd Radio Yes Cymru’n darlledu am ddwy awr rhwng 5-7 bob nos rhwng heno a nos Wener, ac yn cynnal sgyrsiau â nifer o westeion sy’n ymwneud â’r ymgyrch tros annibyniaeth.

Ar wefan yr orsaf, sy’n darlledu’r cynllun peilot ar blatfform Cymru FM, fe ddywed mai bwriad y cynllun peilot yw “dechrau gwasanaeth cyson o newyddion a barn am Gymru a’r byd o safbwynt Cymru”.

Ychwanega: “Byddwn yn hyrwyddo annibyniaeth i Gymru – cyflwr naturiol pob cenedl. Bydd y gwasanaeth yn y ddwy iaith maes o law, ond ar gyfer cyfnod peilot byddwn yn darlledu yn y Gymraeg yn unig o Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn y brifddinas.”

Bydd yr orsaf yn darlledu o adeiladu indycube ar Sgwâr Mount Stuart ger safle’r brifwyl, yr adeilad lle byddai’r Senedd wed’i sefydlu pe bai refferendwm 1979 wedi bod yn llwyddiannus.

Prif drefnwyr yr orsaf yw Siôn Jobbins, Lowri Fron Jones, Bethan Williams a Hedd Gwynfor ac ymhlith y gwesteion ar y rhaglen gyntaf heno mae dau o’r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth ac Adam Price, a nifer o bobol flaenllaw yn y frwydr tros annibyniaeth.