Mae Aelod Seneddol ifancaf Plaid Cymru yn dweud ei fod am weld Rhun ap Iorwerth yn arwain ei blaid.

Wrth ddatgan ei gefnogaeth i Aelod Cynulliad Ynys Môn, mae Ben Lake yn dweud bod ganddo “weledigaeth gyffrous” sy’n rhoi pwyslais ar “ddyfodol cenedlaethau iau.”

Mae ganddo hefyd yr “angerdd a’r gallu”, meddai’r Aelod Seneddol wedyn, i “ysbrydoli’r gefnogaeth eang sydd ei angen i wireddu dyfodol o’r fath.”

Y ras

Mae tri yn herio’i gilydd er mwyn bod yn arweinydd ar Blaid Cymru, sef Rhun ap Iorwerth, Adam Price a Leanne Wood.

Mae’r tri eisoes wedi lansio eu hymgyrchoedd, ac mae disgwyl i’r buddugwr gael ei gyhoeddi ym mis Hydref.