Mae dyn o’r Bala wedi cael enwogrwydd sydyn ar ôl cysgu’r nos ar garreg drws ym mhortsh un o gyflwynwyr gorsaf radio Capital yng Nghaerdydd.

Mae Polly James wedi gosod fideo ar trydar yn dangos amlinell yr eisteddfodwr ifanc yn stryffaglu i’w draed wrth iddi hi drio agor drws ei chartref yn y ddinas.

Ymhen ychydig, mae wedi datgelu’n sigledig mai Pwyll yw ei enw a’i fod yn credu mai drws tŷ ei ffrind ‘Ned’ oedd yr un lle bu’n cysgu.

Ers hynny, mae nifer o bobol wedi nodi mai Pwyll Edwards yw ei enw llawn – mae miloedd wedi gwylio’r fideo eisoes.

Ac mae’r stori’n gorffen yn hapus, meddai Polly James mewn ail neges – fe ddaeth Pwyll o hyd i Ned.