Mae pâr o fôr-wenoliaid gwridog – yr aderyn prinnaf yng ngwledydd Prydain – wedi magu cywion ar Ynysoedd y Moelrhoniaid, oddi ar Ynys Môn.

Mae un o’r cywion wedi hedfan y nyth yn llwyddiannus – y tro cyntaf i hynny ddigwydd ers 2006.

Mae’r prosiect Roseate Tern LIFE Recovery Project ar yr ynys wedi derbyn arian Ewropeaidd, gan roi pythefnos ychwanegol o waith i wardeinio’r ynysoedd, ynghyd â darparu blychau nythu.

Hanes yr aderyn

Roedd môr-wenoliaid gwridog i’w gweld drwy Gymru gyfan ar un adeg cyn iddyn nhw ddod o fewn trwch blewyn i ddiflannu’n gyfan gwbl yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Câi eu plu eu defnyddio yn aml i greu hetiau ffasiynol.

Ac mae heriau cyfoes, gan gynnwys prinder bwyd, cynefin nythu sy’n erydu ac ysglyfaethu yn parhau i gael effaith ar niferoedd.

Mae gan y prosiect gyllid Ewropeaidd am bum mlynedd, gan dderbyn cymorth gan yr RSPB, Birdwatch Iwerddon ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru.

Dim ond 116 o barau sy’n nythu yng ngwledydd Prydain erbyn hyn, a’r rheiny ar Ynys Coquet yn Lloegr.

Ynysoedd y Moelrhoniaid

Ynysoedd creigiog oddi ar Ynys Môn yw Ynysoedd y Moelrhoniaid.

Mae llystyfiant yn brin yno a’r tir yn arw, sy’n eu gwneud yn anaddas i bobol.

Ymhlith yr adar eraill sy’n nythu ar yr ynysoedd dros yr haf mae palod, gwylanod y penwaig, gwylanod cefnddu lleiaf a gwylanod cefnddu mwyaf.

Magu’n llwyddiannus

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Rheolwr Roseate Tern LIFE Recovery Project, Daniel Piec: “Rydym wrth ein boddau gyda’r newyddion am y môr-wenoliaid gwridog yn dychwelyd i fridio ar Ynysoedd y Moelrhoniaid.

“Mae’r gwaith a gafodd ei wneud ar yr ynysoedd yn ystod y blynyddoedd blaenorol wedi bod yn allweddol i’w denu nhw yn ôl.

“Diolch i gyllid LIFE, gallwn ni ymestyn y tymor wardeinio er mwyn sicrhau bod y cywion o’r pâr yma o fôr-wenoliaid gwridog yn magu yn llwyddiannus, gan ei wneud y tro cyntaf ar yr ynysoedd yma ers 2006.”

Methiant yn y gorffennol

“Mae’r RSPB, gyda chefnogaeth ariannol ychwanegol gan Gyfoeth Naturiol Cymru, wedi bod yn gweithio i ddiogelu’r adar môr ar Ynysoedd y Moelrhoniaid am nifer o flynyddoedd, ac wrth ystyried môr-wenoliaid gwridog sy’n nythu, mae ganddyn nhw hanes amrywiol,” meddai Warden RSPB Cymru, Ian Sims.

“Yn 2016, bu un pâr yn bridio, ond ni fagwyd unrhyw gywion. Cyn hynny, buon nhw’n bridio y tro diwethaf yn 2006 – pan fagwyd un cyw gan y pâr.

“Tra bod dau bâr wedi bridio yn 2003, ni fagwyd unrhyw gywion. Er hynny, ni ellir gorbwysleisio’r newyddion yma – yn enwedig o gofio ymdrechion y staff yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Er hynny, nid hwn oedd yr unig newyddion da i daro’r ynysoedd yr haf hwn. Gwelsom gynnydd dramatig hefyd mewn môr-wenoliaid y gogledd, gydag amcangyfrif o 600-700 mwy o barau o’u cymharu â 2017 – cynnydd o 20% yn gyffredinol. Gyda hyn, rydym yn obeithiol o ddenu mwy o fôr-wenoliaid yn y dyfodol.”