Bu farw cyn-reolwr BBC Cymru, Gareth Price, yn 78 oed. Fe fu’n gweithio i’r Gorfforaeth am 26 o flynyddoedd rhwng 1964 a 1990, ac yn gyfrifol am raglenni Cymraeg rhwng 1986 a 1990.

Cyn hynny, roedd yn gynhyrchydd ac yn Bennaeth Rhaglenni pan gafodd S4C ei sefydlu.

Gadawodd y BBC yn 1990 i fynd i weithio i Sefydliad Thomson.

Cafodd ei addysg yn Aberaeron ac yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth cyn mynd yn ddarlithydd cynorthwyol ym Mhrifysgol Queen’s, Belfast.

Roedd yn Gymrawd ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac fe dderbyniodd Fedal Cymdeithas y Gymanwlad yn 2006 am ei wasanaeth i ddarlledu.

Teyrngedau

Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd Prifysgol Aberystwyth ei fod yn “un o gewri’r diwydiant darlledu yng Nghymru”.

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies fod ganddo fe “waddol gyfoethog”.

Ychwanegodd: “Chollodd e fyth mo’i gariad at ddarlledu a’i bosibiliadau creadigol di-ddiwedd. Gyda Gareth, roedd yna brosiect newydd bob amser neu syniad newydd i’w ystyried a dadlau yn ei gylch.”