Mari Williams o Gaerdydd yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni.

Ysbryd yr Oes oedd enw ei darn buddugol, ac mae’r nofel yn adrodd stori dau gymeriad ar adegau o argyfwng yn eu bywydau.

Meinir Pierce Jones, Bet Jones a Gareth Miles, oedd beirniaid y wobr, ac yn eu barn hwythau mae’r darn yn “gynnil, grefftus ac amserol”.

“Mae hon yn nofel uchelgeisiol a deallusol wrth i’r awdur bendilio rhwng y ddwy stori, gan dynnu sylw’r darllenydd ystyriol at y gwrthgyferbyniadau a’r tebygiaethau rhyngddynt,” meddai’r Meinir Pierce Jones, mewn seremoni ar lwyfan y pafiliwn.

Yn ôl y beirniad Bet Jones, mae’r darn yn “procio’r meddwl a’n ysgogi trafodaeth”.

Doe a Heddiw oedd enw y darn pan gafodd ei gyflwyno, ac Ysbryd yr Oes oedd ffugenw Mari Williams pan gyflwynodd hi. Od bellach mae wedi penderfynu rhoi ei ffug enw yn deitl ar y nofel.

Y wobr

Creu nofel heb ei chyhoeddi heb fod yn llai na 50,000 o eiriau oedd tasg y wobr.